Skip navigation

Cynllun Iaith Gymraeg

Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ymdrin â busnes y cyhoedd a gweinyddu cyfiawnder

Mae'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn ymroddedig i gynnig gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn iaith eu dewis.

Rydym wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg (y cynllun) yn sefydlu sut fyddwn ni'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd sy'n siaradwyr Cymraeg. Yn wreiddiol fe gyhoeddom ein cynllun ym Medi 2011 ac rydym wedi ei adolygu i adlewyrchu ein henw newydd a'n rôl fel rheoleiddiwr gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr. Fe gymeradwyodd Comisiynydd y Gymraeg ein cynllun diwygiedig ar 15 Chwefror 2013.

Yn 2015, aethom ati i baratoi adroddiad gwerthusiad cynhwysfawr i asesu a gwerthuso ein perfformiad o ran gweithredu'r cynllun ers ei ddechreuad. Cafodd yr adroddiad hwn ei ystyried gan Gyngor yr HCPC a'i ddanfon ymlaen at swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r adroddiad, ynghyd â chynllun gweithredu cysylltiedig o flaenoriaethau allweddol dan y cynllun ar gyfer y cyfnod 2015-17, ar gael isod.

Rydym yn deall y bydd ein cynllun yn cael ei ddisodli yn y pen draw gan Safonau'r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ystyried pa safonau fydd yn berthnasol i'r HCPC yn y pen draw.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithredu'r cynllun presennol a monitro ei weithrediad. Byddwn hefyd yn adrodd yn flynyddol ar ein cynnydd i Gyngor yr HCPC a Chomisiynydd y Gymraeg.

Rydym yn croesawu adborth ar y cynllun a gallwch roi sylw trwy anfon e-bost at policy@hpc-uk.org

Cyhoeddwyd:
15/02/2013
Resources
Report, Policy
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 17/09/2018
Top