Skip navigation

HCPC yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg

01 Hyd 2020

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg ar Gynllun Iaith Gymraeg yr HCPC

Mae’r HCPC yn destun rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i drin y Saesneg a’r Gymraeg ar y sail eu bod yn gyfartal. Ers i ni lansio ein Cynllun Iaith Gymraeg yn 2011, rydym wedi amlinellu sut byddwn ni’n darparu gwasanaethau i aelodau o’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg yn wyneb y rhwymedigaethau hyn. Fel rhan o’r cynllun, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn trin y Saesneg a’r Gymraeg yn yr un ffordd pan fyddwn yn cyfathrebu â’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2019-2020 yn rhoi diweddariadau ynglŷn â’r modd rydym wedi parhau i weithredu’r camau hyn, gan gynnwys:

  • ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg wrth barhau i ddatblygu ein gwefan;
  • cyhoeddi hysbysebion dwyieithog yng Nghymru ar gyfer unrhyw swyddi gwag ar ein Cyngor; a
  • codi ymwybyddiaeth ymhlith ein staff o'n rhwymedigaethau o dan y Cynllun trwy ymgysylltu a hyfforddiant mewnol.

Yn arwyddocaol, fel rhan o ailddatblygiad gwefan yr HCPC, mae bellach yn rhoi'r gallu i'n cynnwys fod yn amlieithog, gan ganiatáu i ni ddatblygu cynnwys Cymraeg newydd yn yr un ffurf â chynnwys Saesneg.

Dywed Matthew Clayton, Uwch Swyddog Polisi yn yr HCPC;

“Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn eu dewis iaith. O dan ein Cynllun, rydym yn rhoi rhybudd o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ddwyieithog ac yn cynnig cyfieithu ar y pryd ac addasiadau eraill wrth gynnal digwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru.

“Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael yn rhwydd i aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg, rydym yn monitro cydymffurfiaeth â’n Cynllun Iaith Gymraeg trwy gyfathrebu mewnol neu adolygiadau o’r cynnwys rydym yn ei gynnig ar-lein ynglŷn â’r cynllun.

“Rydym yn cyfeirio hefyd yn yr adroddiad at ein Cynllun Gweithredu Cyfartaledd, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n hymrwymiad i gyflawni ymrwymiadau ein Cynllun Iaith Gymraeg yn y maes hwn.”

Mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn cyd-fynd hefyd â chyflwyno ein hymateb i’r ymgynghoriad ynglŷn â Safonau’r Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd. Rydym wedi gweithio’n ddiwyd o fewn ein sefydliad i roi ymateb ystyrlon i’r safonau arfaethedig ac rydym yn ymrwymo i weithredu ein cynllun presennol tra bydd y rheoliadau newydd yn cael eu datblygu.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â’n Cynllun Iaith Gymraeg a darllen yr adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r wybodaeth hon ar gael hefyd yn Saesneg

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 01/10/2020
Top