Skip navigation

Rhoi gwybod am bryderon neu wybodaeth am ddarparwr neu raglen

Beth i’w wneud os oes gennych chi bryderon am raglen neu ddarparwr addysg cymeradwy

Rydyn ni eisiau clywed eich pryderon sy’n ymwneud â rhaglenni a darparwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), ond mae gennym gylch gwaith cul o ran yr hyn y gallwn ymchwilio iddo a gweithredu arno. Os oes gennych chi bryder am rywun ar ein Cofrestr, dylech godi hyn drwy ein proses addasrwydd i ymarfer.

Cyn codi pryder am ddarparwr a / neu raglen, dylech geisio datrys y pryder yn lleol. Bydd gan ddarparwyr addysg brosesau ar waith i adolygu a datrys pryderon, ac rydyn ni o’r farn mai datrys y broblem yn lleol sydd orau i bawb. Rydyn ni’n gofyn i ddarparwyr addysg ystyried pryderon a phroblemau yn ein gweithgarwch ymgysylltu cyson â nhw.

Dylech hefyd ystyried ai ni yw’r corff mwyaf priodol i ddelio â’ch pryder. O fewn ein cylch gwaith rheoleiddiol, gallwn ymchwilio i bryderon am y canlynol:

Ni fydd penderfyniadau a wneir drwy ein proses yn arwain at newid unrhyw ganlyniad ar gyfer y sawl a gododd y pryder. Yn hytrach, efallai y byddwn yn gofyn i ddarparwyr addysg ystyried neu newid eu polisïau a’u prosesau sy’n rhoi sail i sut mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg.

Beth ddylech chi ei wneud cyn codi pryder gyda ni

Gofynnwn eich bod wedi mynd drwy brosesau apelio a phryderon lleol, a bod y prosesau hynny wedi dod i ben, cyn codi pryderon gyda ni. Rydyn ni’n gofyn hyn oherwydd:

  • rydyn ni wedi dyfarnu bod y rhaglenni yn bodloni ein safon addysg sy’n mynnu bod “proses drylwyr ac effeithiol ar waith ar gyfer derbyn ac ymateb i gwynion gan ddysgwyr”; ac
  • o’n profiad ni, datrys y broblem yn lleol sydd orau gan bawb.

Ar ôl i’r broses fewnol ddod i ben, dylech hefyd ystyried ai ni yw’r corff mwyaf priodol i ddelio â’ch pryder.

Er enghraifft, os ydych chi’n fyfyriwr neu’n ddysgwr sy’n anfodlon â chanlyniad proses gwyno fewnol, ni allwn gymryd camau i newid penderfyniad y darparwr addysg. Mae ein pwerau ni yn gyfyngedig i ymchwilio i sut mae rhaglenni yn parhau i fodloni ein safonau ni.

Efallai y bydd eich corff proffesiynol yn gallu rhoi cymorth mwy uniongyrchol i chi, os ydych chi’n chwilio am ganlyniad penodol gan ddarparwr addysg.

Sut mae codi pryder

Efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â ni yn anffurfiol cyn codi pryder yn ffurfiol. Gallwn eich helpu i benderfynu a ydyn ni’n gallu helpu ac ai ni yw’r corff mwyaf priodol i ddelio â’ch pryder. Byddwn yna’n gofyn i chi lenwi ffurflen codi pryder ynghylch darparwr / rhaglen.

Gofynnwn i’r rheini sy’n codi pryderon nodi pwy ydyn nhw, gan ei bod yn ddefnyddiol i bob parti wybod pwy sydd wedi codi pryder. Yn benodol, mae hyn yn:

  • ein galluogi ni i ymchwilio’n iawn, gan gynnwys gofyn am ragor o dystiolaeth / gwybodaeth (lle bo angen);
  • ein galluogi ni i sicrhau ein bod yn deall y materion yn glir;
  • galluogi darparwyr addysg i ddeall y cyd-destun wrth ymateb.

Ffurflen codi pryder ynghylch rhaglen a / neu ddarparwr addysg

Ein hymchwiliad

  1. Ar ôl i’ch ffurflen ddod i law, byddwn yn ystyried a allai’r pryder effeithio ar sut mae’r rhaglen yn bodloni ein safonau. Byddwn yn gwneud ein penderfyniad ac yn ei ddychwelyd atoch, ynghyd â’n rhesymau, cyn pen pythefnos ar ôl i’ch ffurflen ddod i law.
  2. Os byddwn yn penderfynu ymchwilio, byddwn yn anfon eich pryder ymlaen at y darparwr addysg ac yn rhoi pedair wythnos iddo ymateb i’r pryder. Byddwn y hefyd yn rhoi cyfle i chi ddarparu unrhyw wybodaeth ategol yn ystod y cam hwn.
  3. Ar ôl i’r ymatebion ddod i law, byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn o’r materion a godwyd ac yn gwneud argymhelliad ynglŷn â sut i fwrw ymlaen. Byddwn fel arfer yn gwneud y penderfyniad hwn cyn pen pedair wythnos ar ôl i’r ymatebion ddod i law.
  4. Byddwn yna’n rhoi pedair wythnos i chi a’r darparwr addysg roi unrhyw sylwadau ar ein hargymhelliad.
  5. Ar ôl hynny, bydd adroddiad yr ymchwiliad, ynghyd ag unrhyw sylwadau gennych chi a / neu’r darparwr addysg, yn cael eu hanfon ymlaen at y Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant i wneud penderfyniad terfynol ynghylch y camau a fydd yn cael eu cymryd (os o gwbl).
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 21/11/2023
Top