Skip navigation

Mae'r tabl isod yn dangos y proffesiynau rydym yn eu rheoleiddio a'u teitlau gwarchodedig cyfatebol

Proffesiynau a theitlau gwarchodedig

  • Mae therapydd seicolegol yn therapydd celfyddydau sydd â phrofiad a hyfforddiant sy’n seiliedig ar y celfyddydau mewn ymyriadau seicolegol yn defnyddio drama, cerddoriaeth neu gelf fel eu prif gyfrwng cyfathrebu.

    Teitlau gwarchodedig

    • Seicotherapydd celf
    • Therapydd celf
    • Dramatherapydd
    • Therapydd cerdd
  • Mae gwyddonydd biofeddygol yn dadansoddi samplau o gleifion er mwyn darparu data i helpu meddygon i ddiagnosio a thrin afiechyd.

    Teitlau gwarchodedig

    • Gwyddonydd biofeddygol

     

  • Mae ciropodydd /podiatrydd yn diagnosio ac yn trin anhwylderau, afiechydon ac anffurfiadau’r traed.

    Teitlau gwarchodedig

    • Ciropodydd
    • Podiatrydd
  • Mae gwyddonydd clinigol yn goruchwylio profion arbenigol ar gyfer diagnosio a rheoli afiechyd. Maent yn cynghori meddygon ynglŷn a phrofion a dehongli data, ac yn cynnal ymchwil er mwyn dod i ddeall afiechydon.

    Teitlau gwarchodedig

    • Gwyddonydd clinigol

     

  • Mae deietegydd yn defnyddio gwyddor maeth i greu cynlluniau bwyta ar gyfer cleifion at ddibenion trin cyflyrau meddygol. Maent yn hybu iechyd da drwy helpu i hwyluso newid cadarnhaol o ran dewisiadau bwyd.

    Teitlau gwarchodedig

    • Deietegydd
    • Deietegydd

     

  • Mae cyflenwyr cymhorthion clyw yn gweithio mewn ymarfer preifat i asesu, ffitio a darparu ôl-ofal ynghylch cymhorthion clyw.

    Teitlau gwarchodedig

    • Cyflenwr cymhorthion clyw

    Rydym hefyd yn rheoleiddio swyddogaeth warchodedig cyflenwr cymhorthion clyw.

  • Mae therapydd galwedigaethol yn defnyddio gweithgareddau penodol er mwyn cyfyngu ar effeithiau anabledd a hyrwyddo annibyniaeth ym mhob agwedd ar fywyd beunyddiol.

    Teitlau gwarchodedig

    • Therapydd galwedigaethol

     

  • Mae ymarferwyr adrannau llawfeddygol yn darparu gofal wedi’i deilwra a chymorth medrus i'r unigolyn ochr yn ochr â chydweithwyr meddygol a nyrsio yn ystod camau anaesthetig, llawfeddygol ac adfer triniaeth lawfeddygol.

    Teitlau gwarchodedig

    • Ymarferydd adrannau llawfeddygolz
  • Mae orthoptydd yn arbenigo mewn diagnosio a thrin problemau golwg sy’n gysylltiedig â symudiad ac aliniad y llygaid.

    Teitlau gwarchodedig

    • Orthoptydd

     

  • Mae parafeddygon yn darparu gofal a thriniaeth arbenigol i gleifion sydd naill ai â salwch acíwt neu sydd wedi’u hanafu. Gallant roi ystod o gyffuriau a chynnal technegau llawfeddygol penodol.

    Teitlau gwarchodedig

    • Parafeddyg

     

  • Mae ffisiotherapyddion yn ymdrin â gweithrediad a symudiad y corff dynol, ac yn helpu pobl i gyflawni eu llawn botensial corfforol. Maent yn defnyddio dulliau ffisegol i hyrwyddo, cynnal ac adfer llesiant.

    Teitlau gwarchodedig

    • Ffisiotherapydd
    • Therapydd ffisegol

     

  • Mae seicoleg yn astudiaeth wyddonol sy'n ymrin â phobl, y meddwl ac ymddygiad.. Mae seicolegwyr yn ceisio deall rôl gweithrediadau meddyliol yn ymddygiad unigolion ac mewn ymddygiad cymdeithasol.

    Teitlau gwarchodedig

    • Ymarferydd seicoleg
    • Seicolegydd cofrestredig
    • Seicolegydd clinigol
    • Seicolegydd fforensig
    • Seicolegydd cwnsela
    • Seicolegydd iechyd
    • Seicolegydd addysg
    • Seicolegydd galwedigaethol
    • Seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff

     

  • Mae prosthetyddion / orthotyddion yn cyflenwi prostheses ac orthoses i gleifion. Mae prosthesis yn ddyfais sy’n cymryd lle rhan golledig o’r corff. Caiff orthosis ei osod ar ran bresennol o’r corff.

    Teitlau gwarchodedig

    • Prosthetydd
    • Orthotydd

     

  • Mae radiograffwyr therapiwtig yn cynllunio a darparu triniaeth drwy ddefnyddio ymbelydredd.

    Mae radiograffwyr diagnostig yn cynhyrchu a dehongli delweddau o’r corff o ansawdd uchel er mwyn diagnosio anafiadau ac afiechydon.

    Teitlau gwarchodedig

    • Radiograffydd
    • Radiograffydd diagnostig
    • Radiograffydd therapiwtig
  • Mae therapydd iaith a lleferydd yn asesu, trin a helpu i atal anawsterau lleferydd, iaith a llyncu.

    Teitlau gwarchodedig

    • Therapydd iaith a lleferydd
    • Therapydd lleferydd
Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 18/09/2018
Top