Skip navigation

Cyngor i aelodau'r cyhoedd

Ein prif bryder yn ystod yr achos o COVID-19 yw diogelwch defnyddwyr gwasanaeth.

Rydym yn gweithio i sicrhau nad ydym yn creu unrhyw rwystrau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol diogel ac effeithiol ddychwelyd i ymarfer, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw bryderon yn gyflym ac yn effeithiol.

Gofynnwn am eich amynedd ar yr adeg hon. Mae ein proffesiynau yn gweithio mewn amgylcheddau heriol ac yn peryglu eu hunain i amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth. Rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd yn ystod y pandemig COVID-19 hwn.

 

Ynglŷn â chofrestr dros dro COVID-19

  • Mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae'r HCPC wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i greu cofrestr dros dro COVID-19, o ddwy ran.

    Ein bwriad wrth wneud hynny yw sicrhau nad oes rhwystrau rheoliadol i'r ddau grŵp canlynol ymarfer dros dro:

    • Cyn-unigolion cofrestredig sydd wedi dadgofrestru o fewn y tair blynedd diwethaf.
    • Myfyrwyr y drydedd flwyddyn, ar raglenni a gymeradwywyd yn y DU, sydd wedi cwblhau eu holl leoliadau ymarfer clinigol.

     

  • Gallwch ddod o hyd i Gofrestr dros dro COVID-19 yma.

  • Rydym hefyd wedi penderfynu eithrio anodiadau ar gofrestr (iau) dros dro COVID-19.

    Mae hyn yn golygu na fydd cofrestreion ar gofrestr dros dro COVID-19 yn gallu ymarfer mewn meysydd risg uchel, fel rhagnodi neu lawdriniaeth podiatreg.

    Fodd bynnag, gall hyn newid, a byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau i sicrhau bod hwn yn parhau i fod yn ddull priodol.

  • Rydym wedi cymryd pob cam posibl i leihau'r risgiau i'r cyhoedd, gan hefyd weithredu cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y GIG yn cael ei baratoi orau ar gyfer y pandemig COVID-19.

    Rydym wedi sicrhau nad oes neb yn ymddangos ar y rhestr hon a fu'n destun pryderon addasrwydd i ymarfer yn y gorffennol.

  • Os oes gennych bryder ynghylch cofrestreion dros dro COVID-19, e-bostiwch ftp@hcpc-uk.org.

    Mae canllawiau ychwanegol ar godi pryder ar ein gwefan.

    Sylwch, oherwydd natur y gofrestr, a'r risgiau cynyddol dan sylw, bydd unrhyw bryder a godir sy'n cwrdd â'n prawf Brysbennu (fel yr eglurir yn ein Polisi Trothwy) yn arwain at gael ei dynnu o'r Gofrestr ar unwaith.

    Sylwch, oherwydd natur y gofrestr, a'r risgiau cynyddol dan sylw, bydd unrhyw bryder a godir sy'n cwrdd â'n prawf Brysbennu (fel yr eglurir yn ein Polisi Trothwy) yn arwain at gael ei dynnu o'r Gofrestr ar unwaith.

     

Cyngor i aelodau'r cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19

  • Mae ein proffesiynau, a'r tîm gofal iechyd ehangach yn gweithio mewn amgylcheddau heriol.

    Mae pandemig COVID-19 wedi gofyn iddynt newid y ffordd y maent yn darparu gofal. Rhaid dad-flaenoriaethu gofal nad yw'n fater brys wrth iddynt ddelio â'r rhai sy'n ddifrifol wael, a bydd iechyd y boblogaeth gyfan yn llywio natur y gofal a ddarperir.

    Mae cofrestreion HCPC wedi ymrwymo i'w defnyddwyr gwasanaeth, ac maent yn peryglu eu hunain i ddarparu gofal diogel ac effeithiol yn ystod yr amser anodd hwn. Disgwyliwn iddynt ddefnyddio eu barn broffesiynol i wneud penderfyniadau rhesymegol; gan ystyried ein safonau a'n harweiniad, ynghyd â'r cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth a'r GIG.

    Mewn unrhyw ymgynghoriadau a gewch gyda chofrestrai HCPC, dylent fod yn agored ynghylch eu dull o reoli heintiau a, phan ofynnir iddynt, egluro sut y maent yn dilyn canllawiau perthnasol.

  • Gofynnwn ichi ddilyn cyngor y Llywodraeth a'r GIG, er mwyn lleihau'r straen ar y GIG.

    Mae amynedd a dealltwriaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio i ofalu amdanom; eu parchu a'r sefyllfaoedd anodd y maent yn gweithio ynddynt.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 22/04/2020
Top