Skip navigation

Cefnogi iechyd a lles: Iechyd i Weithwyr Iechyd a Proffesiynol Cymru

Mae gwasanaeth Iechyd i Weithwyr a Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) wedi bod yn achubiaeth i staff a myfyrwyr GIG Cymru sy'n brwydro trwy gydol y pandemig.

Cyn y pandemig COVID-19 roedd y gwasanaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd, yn bennaf ar gyfer meddygon, a oedd angen clust i wrando ac eisiau cael eu cyfeirio at iechyd galwedigaethol neu therapi ymddygiad gwybyddol.

Ers i'r pandemig ddechrau, mae’r gwasanaeth wedi ehangu i gynnig amrywiaeth o gefnogaeth i bawb sy'n gweithio ac yn astudio yn y GIG yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth wedi gweld cynnydd enfawr mewn ymholiadau, nid yn unig y rhai ar y rheng flaen ond drwy gydol GIG Cymru ac mae bellach wedi derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r gwasanaeth a helpu mwy o bobl.

Beth i’w ddisgwyl

Gofynnir i'r rhai a hoffai siarad ag ymgynghorydd am yr opsiynau sydd ar gael i helpu eu hiechyd a'u lles lenwi ffurflen ar-lein syml. Yna bydd apwyntiad yn cael ei wneud i siarad ag un o'n Cynghorwyr Meddygon a fydd nhw wedyn yn cysylltu i ddarparu cyngor pellach. Mae tua 85% o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn cael eu atcyfeirio at wasanaethau therapi siarad neu haenau cymorth eraill a chyfeirir eraill at yr ystod o adnoddau ar-lein sy'n cynnig cymorth gyda'u hiechyd a'u lles.

Mae opsiynau cymorth haenog yn cynnwys rhwydwaith cefnogaeth gydag gymheiriaid, a mynediad at hunangymorth dan arweiniad ar gyfer anhwylder straen wedi trawma (PTSD).

Mae adnoddau eraill yn cynnwys hunangymorth gydag arweiniad, gweminarau a phodlediadau, fideos ioga a myfyrio a dolenni i sefydliadau iechyd meddwl eraill.

Gwneud rheolwyr yn ymwybodol

Mae'r gwasanaeth yn deall y bydd y mwyafrif o sefydliadau'n cynnig eu gwasanaethau iechyd galwedigaethol eu hunain, ond rydym yn annog y rheini yng Nghymru (ac wrth gwrs unrhyw broffesiynau iechyd a gofal o gwmpas y DU) i ymweld â gwefan HHP Cymru ac asesu'r adnoddau sydd ar gael. Fel cyflogwr neu reolwr mae'n bwysig deall y pwysau y gallai gweithwyr fod oddi tano a bod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael er mwyn gallu gynghori eu gweithwyr. Y nod fyddai helpu i leihau gorbryder a phryder mewn cyfnod a allai fod yn straen mawr.

Nod HHP Cymru yw cydweithio â chyflogwyr ac mae'n gobeithio, trwy wneud eu rheolwyr yn ymwybodol o'r gwasanaeth hwn, gobeithio y gallant helpu i dynnu peth o'r pwysau oddi ar reolwyr.

Gall rheolwyr gynghori eu gweithwyr i gysylltu â'r gwasanaeth a all wedyn atgyfeirio gweithwyr i'r driniaeth sydd ar gael.

Mae tua 10-15% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu cyfeirio gan feddygon teulu. Mae llawer ohonynt ar lafar ac mae tua 10% trwy reolwyr neu oruchwylwyr. Mae tua 12% trwy atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol neu fentrau lles gweithwyr, ac mae 10% yn dod o wasanaethau cymorth myfyrwyr Prifysgol.

Nid yn unig yn ystod y pandemig y gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn. Rydym yn deall bod gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn gyson o dan lwythi gwaith dwys, yn ogystal ag yn aml yn ymgymryd â DPP (CPD) neu'n mynd trwy achosion addasrwydd i ymarfer (FTP). Mae'n bwysig deall mai prin iawn yw'r ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer (FTP), ond mae'r gwasanaeth eisiau sicrhau bod y rhai sy'n ei chael hi'n anodd yn gwybod y gallant dderbyn cymorth. Mae cynghorwyr meddygon yn fedrus wrth archwilio sefyllfa y pobl sy'n cysylltu a nhw fel y gallant eu cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf addas.

Profiad personol

Gall y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth fod y mwyaf pwerus wrth godi ei broffil ac annog gweithwyr i'w ddefnyddio a rheolwyr i'w argymell i eraill.

Fe gontractiodd Geraint Thomas, fferyllydd Uwch mewn HIV a gofal cartref o fewn Bwrdd Iechyd y Brifysgol, COVID-19 ym mis Ebrill 2020 ac mae wedi cael trafferth gydag effeithiau meddyliol a chorfforol COVID hir ers hynny. Rhannodd ei brofiad mewn blog ar eu gwefan am y flwyddyn ddiwethaf am sut mae gwasanaeth HHP Cymru wedi ei helpu.

Ar ôl cael ei argymell i'r gwasanaeth gan ffrind ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a'i fod yn gwybod am y brwydrau yr oedd wedi'u hwynebu wrth weithio trwy'r pandemig a dal y firws ei hun, mae o’n cysylltu â'r gwasanaeth ar ôl peidio â gwybod lle arall i droi.

Cwblhaodd y ffurflen atgyfeirio a neilltuwyd therapydd iddo o fewn wythnos a fyddai'n ei arwain trwy sesiynau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Yn aml, y rhai sydd angen cymorth iechyd meddwl yw y rhai sydd wedi ystyried eu hunain yn ffit, yn dda ac yn gydnerth o'r blaen. Yn anffodus mae COVID-19 wedi newid llawer o fywydau ynghyd â'u hiechyd corfforol a meddyliol. Mae'r gefnogaeth y mae pobl yn ei chael gan HHP Cymru yn amhrisiadwy yn enwedig ar adeg mor ansicr. Mae HHP Cymru eisiau gwneud gweithwyr proffesiynol a rheolwyr yn ymwybodol o'r gwasanaeth fel y gellir darparu cymorth i gynifer o bobl â phosibl.

Mwy am HHP Cymru

I ddarganfod mwy am wasanaeth HHP Cymru ewch i'w gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr adnoddau cyflogwyr a ddarparwn, cysylltwch â professional.liaison@hcpc-uk.org.

Tudalen wedi'i diweddaru ymlaen: 03/03/2021
Top